Dechrau cynnar
Daliwch eich baban croen wrth groen cyn gynted ag y bydd wedi ei eni. Anogwch eich babi i fwydo ar y fron cyn gynted â phosibl.
Cydio
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus ac wedi ymlacio – eisteddwch neu gorweddwch gyda rhywbeth yn cynnal eich cefn.
• Cadwch eich bron ar ei lefel naturiol. Dewch a’ch babi at y fron, nid y fron at y babi.
• Cadwch ben a chorff eich babi mewn llinell, ei fol yn eich erbyn chi a’i drwyn gyferbyn â’ch teth.
• Os ydych chi’n cynnal ei gefn a’i wddf, gadewch ei ben yn rhydd i bwyso yn ôl er mwyn iddo allu agor ei geg yn llawn.
• Helpwch y babi i gydio ‘gên yn gyntaf’ gyda’i ben yn ôl.
Wrth iddo gydio, bydd ei ên isaf yn bell yn ôl o’ch teth er mwyn iddo allu cymryd llond ceg o’r fron.
• Unwaith y bydd wedi cydio, cwtsiwch ef yn agos yn eich erbyn.
Mae’n iawn i ofyn am help – gall gymryd amser i fwydo ar y fron ddod yn hawdd.
Ffoniwch ein llinell gymorth: 0345 120 2918,
Dewch o hyd i’ch grwp DGO lleol yma.
Colostrum
• Llaeth bras a gynhyrchir yn y dyddiau cyntaf.
• Ychydig bach (llwyau te nid llwyau bwrdd).
• Diogelu rhag haint.
• Clirio meconiwm – yn helpu lleihau clefyd melyn.
• Bodloni syched a llwgfa babi.
Digon o laeth?
Ar ôl i’r llaeth ddod i mewn:
• 6-8 clwt gwlyb o fewn 24 awr (5-6 clwt tafladwy)
• Mae 3 pw neu fwy y dydd yn golygu bod y babi’n cael digon o laeth.
Llaeth yn rhy wan? Byth!
Mae gan eich llaeth bopeth mae’ch babi angen. Bydd yn rhoi gwybod i chi os yw wedi cael digon.
• Gorffennwch y fron gyntaf yn gyntaf wedyn
• Cynnig y fron arall os yw’r babi’n dal yn llwglyd.
Pa mor aml?
• Bron fwydwch y babi 10 i 12 o weithiau mewn 24 awr. Daliwch ef a’i ddeffro os yw’n gysglyd iawn.
• Y mwyaf y byddwch yn bwydo, y mwyaf o laeth fyddwch chi’n ei gynhyrchu.
• Mae gorffwys y bronnau yn golygu llai o laeth.
Gorlenwi
• Mae cadachau oer neu ddail bresych rhwng bwydo yn lleihau chwyddo.
• Mae gwres cyn bwydo yn helpu’r llaeth i lifo.
• Meddalwch fronnau trwy dynnu rhywfaint o laeth.
• Bwydwch ar y fron yn aml!
Tethau poenus
• Torrwch y sugniad cyn tynnu’r babi oddi ar y fron.
• Cynigiwch y fron leiaf poenus gyntaf.
• Peidiwch â rhoi plastig yn erbyn y tethau.
• Defnyddiwch ddŵr croyw yn unig i ymolchi.
• Gofynnwch am help arbenigol.
Mae babi angen bwydo yn ystod y nos
Mae llaeth dynol yn hawdd a chyflym i’w dreulio ac mae boliau babanod yn fach iawn – felly mae angen i fabanod ddeffro yn ystod y nos i fwyta.
Dwythell wedi blocio?
Efallai y byddwch yn teimlo lwmp
dolurus yn eich bron:
• Dodwch wres cyn bwydo.
• Bwydwch yn aml.
• Gwiriwch fod y babi wedi cydio.
• Gorffwyswch. Daliwch i fwydo ar y fron.
• Os nad yw’n well ar ôl 24 awr, cysylltwch
â’r meddyg.
Pyliau o dwf
Babi yn bwydo’n amlach i hybu
cynhyrchiant llaeth. Mae ‘dyddiau
a nosweithiau amlach’ yn aml yn
digwydd tua 2-4 wythnos oed.
Dychwelyd i’r gwaith
• Sefydlwch yr arfer o fwydo ar y fron ymhell cyn mynd yn ôl.
• Gofynnwch am gyfleusterau yn y gwaith i dynnu a storio eich llaeth.
• Pwmpiwch i dynnu llaeth yn y gwaith.
• Ewch â llaeth adref ar gyfer bwydo’r diwrnod nesaf.
• Bwydwch ar y fron yn aml pan fyddwch adref.